Permanent

Peiriannydd Sifil/Priffyrdd, Gogledd a Chanolbarth Cymru

Sustrans

Sustrans

Peiriannydd Sifil/Priffyrdd, Gogledd a Chanolbarth Cymru
£27,255 y flwyddyn
(Cyf: SUS2700)
37.5 awr yr wythnos – cytundeb 12 mis
Wedi’i leoli yng Ngogledd Cymru (Rhuthun neu leoliad arall i’w gytuno)

Mae Sustrans yn cefnogi datblygiad proffesiynol tuag at statws corfforedig neu siartredig trwy gynllun sydd wedi’i gymeradwyo gan Sefydliad y Peirianwyr Sifil.

Dyma gyfle unigryw a chyffrous dros ben i ymuno â’r tîm sy’n dylunio ac yn darparu isadeiledd beicio a cherdded rhagorol fel rhan o raglen Dylunio a Pheirianneg Sustrans ledled y Deyrnas Unedig, yn canolbwyntio’n arbennig ar brosiectau yng Ngogledd a Chanolbarth Cymru sy’n cynnwys isadeiledd beicio a cherdded gwledig a threfol a chynlluniau datblygu strydoedd o’r camau dylunio i’w cyflawni, a thrwy hynny er mwyn creu amodau mwy deniadol a mwy diogel ar gyfer teithio llesol.

Gydag addysg i lefel gradd neu gyfatebol, a chymhwyster perthnasol mewn disgyblaeth peirianneg neu bensaernïaeth, bydd gennych brofiad o ddylunio cyfleusterau beicio a cherdded a dylunio priffyrdd, profiad o greu darluniau a manylebau technegol a datblygiad prosiectau isadeiledd. Bydd gennych sgiliau cyfathrebu rhagorol yn ysgrifenedig ac ar lafar, y gallu i feithrin cysylltiadau gwaith effeithiol a bydd gennych ddealltwriaeth o ganllawiau dylunio isadeiledd beicio a cherdded. Byddwch yn hyfedr gyda TG a bydd gennych brofiad o AutoCAD a meddalwedd arall tebyg ar gyfer dylunio gyda chymorth cyfrifiadur, ac rydych yn ymroddedig i hybu trafnidiaeth gynaliadwy.

Ewch i'n gwefan www.sustrans.org.uk i gael rhagor o wybodaeth a manylion ymgeisio. Fel arall, anfonwch e-bost at [email protected] neu ffoniwch ein llinell recriwtio ar 0117 915 0325 am ragor o wybodaeth. Dyfynnwch gyfeirnod os gwelwch yn dda. Y dyddiad cau ar gyfer derbyn ceisiadau wedi'u cwblhau yw 09:00 am ddydd Mercher 9 Hydref 2019. Cynhelir cyfweliadau yn Wrecsam ddydd Mercher 23 Hydref 2019.

Mae Sustrans wedi ymrwymo i leihau anghydraddoldeb, gwerthfawrogi amrywiaeth a

galluogi cynhwysiant. Croesawn geisiadau gan bobl sydd â’r sgiliau perthnasol o bob rhan o’r gymuned.

http://bit.ly/2lUmIOJ 

Overview

  • Location:
  • Job Title: Peiriannydd Sifil/Priffyrdd, Gogledd a Chanolbarth Cymru
  • Salary: £27,255
  • Closed: 9 Oct 2019

Apply For This Job

Upload your CV (optional) Max. file size: 5MB
No file selected